CCUHP E-Ddysgu
Bydd y pecyn e-ddysgu hwn yn eich helpu i ddysgu mwy am hawliau plant a phobl ifanc. Mae wedi’i gynllunio i gynnig cyflwyniad i CCUHP a fydd yn cefnogi ac yn helpu pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddysgu mwy am hawliau plant a phobl ifanc, ac mae’r hyfforddiant yn cynnwys enghreifftiau o astudiaethau achos a dolenni i wefannau a gwybodaeth ychwanegol.
Lansiwyd y pecyn e-ddysgu gan Lywodraeth Cymru ar yr 20fed o Dachwedd 2012 i ddathlu Diwrnod Byd-Eang y Plant, sef y diwrnod a neilltuwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 i ddathlu plant a’u hawliau.
Bu plant a phobl ifanc yn cyfrannu at ddatblygu’r pecyn ac rydyn ni wedi cael adborth rhagorol gan y gweithwyr proffesiynol a wirfoddolodd i gymryd rhan yn y cyfnod peilot:
“Byddai’r hyfforddiant yn rhagorol i’w ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.”
“Ar y cyfan, dwi'n meddwl ei fod yn adnodd da fel man cychwyn i weithwyr proffesiynol sydd heb fawr o amser i fynychu hyfforddiant.”