• Booklets
  • EggsBanner
  • Training
  • Catalogue

Sichau Dyfodol Cymru - Brexit

Sicrhau Dyfodol Cymru - Symud o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop

Ym mis Mehefin 2016, roedd yna bleidlais:  Ydyn ni eisiau aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) neu ei adael?

Fe bleidleisiodd y mwyafrif o bobl yn y DU I ‘adael’.

 

  • Cydweithio

Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain.  Mae’n rhaid I ni weithio gyda Llywodraeth y DU yn Llundain ac fe fydd angen trafod telerau â’r UE.

 

  • Y Farchnad Sengl

Mae cael Marchnad Sengl yn ei gwneud hi’n haws o lawer prynu a gwerthu (masnachu) rhwng gwledydd yr UE.

 

  • Symud i Gymru

Mae pobl yn symud rhwng gwledydd yr UE i weithio ac i astudio.

 

  • Cyllid

Mae gwledydd yn talu i fod yn aelod o’r UE ac maen nhw hefyd yn derbyn cyllid oddi wrth yr UE.  Rydyn ni’n cael rhyw £680 miliwn o gyllid yr UE bob blwyddyn.  Mae swm y cyllid y mae Cymru’n ei gael oddi wrth yr UE yn fwy na’r swm rydyn ni’n ei dalu i mewn.

 

  • Pwerau Llywodraeth Cymru

Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun.  Rydyn ni’n gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru.

 

  • Mesurau diogelu ar gyfer pobl a’r amgylchedd

Mae’r DU wedi bod yn rhan o’r UE am fwy na 40 mlynedd.  Mae yna lawer o gyfreithiau a pholisïau sydd wedi bod yn dda I Gymru.

 

  • Osgoi amhariad

Nid yw’n beth syml gadael yr UE.  Mae yna ran o gyfraith yr UE o’r enw Erthygl 50.  Mae’n rhoi’r hawl i unrhyw wlad yr UE adael.  Mae hefyd yn manylu ar sut i adael.

 

  • Y camau nesaf

Fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau i adael yr UE.

 

I weld y dogfennau llawn cliciwch yma

YMGYNGHORIAD AR AGOR - Diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru

Yn 2018 bydd y darpariaethau yn Neddf Cymru 2017 sy’n ymwneud â materion etholiadol a chofrestru yn dod i rym. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar:

  • sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru
  • sut mae pobl yn dod yn gymwys i bleidleisio
  • sut maen nhw’n arfer eu hawl i bleidleisio
  • sut mae etholiadau’n cael eu trefnu.

 

Newid pwy sy’n cael pleidleisio

Oedran Pleidleisio

I bleidleisio mewn etholiadau mae’n rhaid ichi fod dros 18 oed.

 **Mae Llywodraeth Cymru eisiau cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed hefyd.**

Voting Welsh

 

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yma

Gallwch weld y ddogfen ymgynhori – fersiwn pobl ifanc yma

 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 10 Hydref 2017, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

  • Ffurflen ar Lein:  Ymateb ar Lein
  • EbostLawrlwythwch y ffurflen ymateb.  Cwblhewch a'i dychwelyd i: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
  • Post:  Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.  Cwblhewch a'i dychwelyd i:  Yr Is-adran, Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

 

Y dyddiad cau ar gyfer yr Ymgynghoriad yw: 10 Hydref, 2017

 

Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru

Beth yw Y ffordd Gywir: Dull gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru?

Fframwaith ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), i helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant i bob agwedd ar lunio penderfyniadau, polisi ac ymarfer.

 

Mae’r canllaw, sydd wedi’i greu gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru gyda chyngor arbenigol gan Arsyllfa Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Cymru (ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor), yn annog gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad i ymrwymo i CCUHP a gwella sut maen nhw’n cynllunio ac yn darparu eu gwasanaethau.

Mae e ar gael i lawrlwytho yma.

 

Pam ddylwn i ddefnyddio’r fframwaith hwn?

Mae buddsoddi mewn hawliau dynol plant yn creu manteision gwirioneddol i sefydliadau: 

  • Bydd yn helpu cyrff sector cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau statudol.

  • Mae’n cyfrannu at alluogi mwy o blant a phobl ifanc i ymwneud yn well â gwasanaethau cyhoeddus.

  • Mae’n sicrhau bod ffocws gwirioneddol ar anghenion penodol plant y gall eu lleisiau gael eu collineu eu distewi

  • Mae’n creu amgylchedd lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn atebol i’w holl ddefnyddwyr.

 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni.

 

Mae Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg  yng Nghymru ar gael i’w ddarllen yma.

 

*** Noder, mae'r adnoddau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiynydd Plant Cymru ***

 

Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr

Adnoddau newydd ar hawliau blant sydd yn addas i blant.

 

Mae Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr wedi lansio dau gyhoeddiad ar gyfer plant a phobl ifanc ar sut y mae'r DU yn parchu hawliau plant.

 

Wedi'i ariannu gan Adran y DU dros Addysg, mae’r ddwy bamffled yn crynhoi'r Sylwadau Terfynol – Dyfarniad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar sut y mae'r DU yn parchu hawliau plant - mewn iaith sy'n addas i blant.  Mae un wedi ei anelu at blant iau rhwng 7 a 11 oed a'r llall ar gyfer plant rhwng 12 a 17 oed. Mae Gweinidog newydd y DU ar gyfer Plant a Theuluoedd, Robert Goodwill wedi ysgrifennu rhagair.

 

Mae Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr wedi gweithio gyda phlant yn Ysgol Iau Hove a'r grŵp llywio ‘Change It’! i gyd-gynhyrchu'r crynodebau i sicrhau eu bod yn hygyrch i blant o grwpiau oedran wahanol.  Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio'r adnoddau i weld sut mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar amrywion o faterion sy'n ymwneud â hawliau plant yn cynnwys gwneud yn siŵr bod plant yn cael lle gweddus i fyw, yn cael eu cadw'n ddiogel, yn cael addysg da ac yn cael llais.

 

Lawrlwythwch y crynodeb ar gyfer plant 7-11 oed yma

Lawrlwythwch y crynodeb ar gyfer 12-17 oed yma

 

Os hoffech dderbyn copi caled, e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

 

Noder fersiynau Saesneg yn unig o'r dogfennau sydd ar gael.

 

Mae'r wefan hon a'i chynnwys i gyd yn hawlfraint 2016 Llywodraeth Cymru
YF logo white  ceop-logo  Welsh Assembly Government logo  CRights Aware Logo