Gŵyl Llên Plant Caerdydd - Ebrill 21 - Ebrill 29
Yn Galw pob llyfrbryf...
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn ei ôl
Ebrill 21 - Ebrill 29
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd bellach yn ei 6ed blwyddyn ac fe’i cynhelir dros ddau benwythnos gyda digwyddiadau i ysgol yng nghanol yr wythnos. Mae’r ŵyl yn cynnwys mwy na 40 o ddigwyddiadau gan gynnwys sesiynau crefft AM DDIM a rhaglen helaeth o ddigwyddiadau i ysgolion a gynhelir mewn canolfannau eiconig ledled canol y ddinas gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Amgueddfa Cymru a Stori Caerdydd.
Mae’r ŵyl, a anelir yn bennaf at blant 3-11 mlwydd oed, yn parhau i greu darllenwyr am oes wrth ddiddanu a thanio brwdfrydedd plant am ddarllen. Mae’r digwyddiadau yn cynnwys gweithdai ysgrifennu, darlleniadau, gweithgareddau crefft, cwisiau a gemau ac ambell ymddangosiad gan gymeriad neu dda!
Mae’r awduron a’r darlunwyr gwadd yn cynnwys Petr Horáček, Sibéal Pounder, Tom Percival, Catherine Fisher, Huw Aaron, Tom Palmer, Steven Butler a Jonathan Meres i enwi ond rhai.
Cynhelir Gŵyl Llên Plant Caerdydd gan Gyngor Dinas Caerdydd, Llenyddiaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru.
Am fwy o wybodaeth, gweler: https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/#/