Gwyl Llên Plant Caerdydd 25 Mawrth – 2 Ebrill
Wedi dathlu canmlwyddiant Dahl gyda’r hyfryd Ddinas yr Annisgwyl, mae Caerdydd yn edrych ymlaen ar ragor o hwyl llyfrau. Byddwn yn dathlu pum mlwyddiant Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn 2017, a hon fydd y fwyaf a’r orau eto! Bydd yr ŵyl, a fydd yn parhau dros ddau benwythnos, yn cynnwys digwyddiadau yn y Saesneg a’r Gymraeg ac yn dathlu’r goreuon o lyfrau cyfoes i blant.
Bydd awduron a darlunwyr yn dod â’u geiriau a lluniau’n fyw mewn safleoedd eiconig ar hyd y ddinas, gyda straeon anhygoel a pherfformiadau yn cynnwys cymeriadau hyfryd. Mae’r ŵyl yn berffaith i bawb sydd wrth eu boddau â llyfrau plant. Gwyl Llen Plant Caerdydd