• Training
  • Catalogue
  • Booklets
  • EggsBanner

Hanes datganoli yng Nghymru

Gellir olrhain gwreiddiau datganoli yng Nghymru yn ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1886, sefydlwyd Cymru Fydd i hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru ac ymgyrchu o blaid “ymreolaeth” i Gymru. Er mai byrhoedlog fu llwyddiant Cymru Fydd, cyd-darodd ei weithgareddau â datblygiadau gwleidyddol eraill oedd yn berthnasol i Gymru, fel pasio Deddfau a oedd yn gymwys i Gymru’n benodol, am y tro cyntaf yn Senedd y DU. Roedd hefyd yn cyd-daro â chychwyn datganoli gweinyddol yng Nghymru drwy sefydlu Bwrdd Addysg Cymru ym 1907.  Mwy o wybodaeth Hanes datganoli yng Nghymru

Mae'r wefan hon a'i chynnwys i gyd yn hawlfraint 2016 Llywodraeth Cymru
YF logo white  ceop-logo  Welsh Assembly Government logo  CRights Aware Logo